Cyflwyniad ysgrifenedig - 9 Tachwedd 2018

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yng nghyswllt Gofalwyr

 

Mae Barnardo's Cymru yn darparu pedwar gwasanaeth penodol i ofalwyr ifanc. Rydym yn cefnogi rhieni sy’n ofalwyr mewn pedwar gwasanaeth i blant anabl a’u teuluoedd; rydym hefyd yn cefnogi gofalwyr o bob oed mewn pedwar ar bymtheg o wasanaethau eraill. At hynny, byddwn yn cefnogi gofalwyr yn ein 27 o wasanaethau cefnogi teuluoedd.

 

Mae gwasanaethau i ofalwyr wedi cau ac wedi lleihau yn ein mudiad yn ystod y blynyddoedd diweddar; mae modd priodoli hyn i’r symud tuag at gefnogaeth sy’n fwy penodol i unigolion a’r anogaeth i gynnwys gofalwyr mewn gweithgareddau prif ffrwd.  Er bod y newid hwn yn cael ei groesawu o ran dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae’n anochel ei fod wedi arwain at ganlyniadau negyddol i rai o’r gofalwyr rydym yn eu cefnogi, fel y nodir yn nes ymlaen. 

 

Mae’r dystiolaeth hon yn cynrychioli barn rheolwyr gwasanaethau a gomisiynir i gefnogi gofalwyr, ac mae’r rhan fwyaf yn dod o’r gwasanaethau gofalwyr ifanc. 

 

Effaith y Ddeddf

Mae’r darlun cyffredinol yn gymysg o ran effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar y gofalwyr rydym yn eu cefnogi. Er bod rhai nodweddion cadarnhaol o ran ymwybyddiaeth gynyddol o hawliau gofalwyr mewn rhai achosion, mae nifer o’n gwasanaethau yn adrodd am ddiffyg cyllid, sy’n gallu tanseilio bwriadau cadarnhaol y Ddeddf.  Mae eraill yn dweud nad oes newid arwyddocaol wedi bod ym mywydau gofalwyr ers i'r Ddeddf gael ei chyflwyno. Mae’n ymddangos bod anghysondeb o ran y gydnabyddiaeth a’r ddarpariaeth i ofalwyr ar draws awdurdodau lleol ac oddi mewn iddynt ar brydiau, yn dibynnu ar faterion fel blaenoriaethau lleol, profiad y gweithlu a lefelau ymwybyddiaeth.

 

Dyma rai o ganlyniadau negyddol y Ddeddf, neu newidiadau y mae ein gwasanaethau wedi rhoi gwybod amdanynt:

 

·         Hyd yr ymyriadau wedi gostwng yn sylweddol, sydd wedi arwain at oblygiadau i’r math o gefnogaeth sy’n cael ei chynnig, a symud i ffwrdd oddi wrth wasanaethau perthynol

·         Llai o gefnogaeth ar gael yn gyffredinol, gan arwain at argraff bod mwy a mwy o angen i deuluoedd frwydro am gefnogaeth a chyfiawnhau eu ceisiadau am gefnogaeth

·         Gofalwyr ifanc yn colli cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gymheiriaid

·         Darpariaeth allan o gyrraedd mewn rhai ardaloedd

·         Argraff fod problemau rhai gofalwyr ifanc yn cael eu diystyru neu eu gwanhau, drwy gyflwyno dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y boblogaeth gyfan

·         Prinder staff

·         Rhestrau aros cynyddol am wasanaethau mewn rhai ardaloedd, yn arwain at drothwyon uwch ar gyfer cefnogaeth a rhagor o achosion o argyfwng

·         Llai o ddewis gofal seibiant i rieni sy’n ofalwyr a diffyg cyfle am seibiant i ofalwyr ifanc.

 

Asesu angen

Unwaith eto, roedd adroddiadau am anghysonderau o ran profiadau asesu yn ôl ardaloedd lleol a gweithwyr proffesiynol unigol. Pan oedd asesiad trylwyr wedi’i gynnal gan weithiwr proffesiynol profiadol, dymunol a oedd yn ymwybodol o anghenion gofalwyr, roedd ein gwasanaethau’n adrodd yn gadarnhaol am rannu gwybodaeth yn dda, a theuluoedd yn dawel eu meddwl wrth siarad am eu problemau.

 

Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau o brofiadau gwael teuluoedd sy’n cael eu hasesu. Mae’r rhain yn cynnwys prosesau negyddol ac ymwthiol, sy’n gwneud i’r gofalwr deimlo rheidrwydd i gyfaddef nad yw’n ymdopi neu ei fod yn methu, sy’n broblem benodol i rieni sy’n ofalwyr. Mae profiadau eraill o asesu wedi arwain at ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu neu’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi na’u cefnogi.

 

Darparu cefnogaeth, gan gynnwys gofal seibiant

Mae gwasanaethau’n cau a llai o wasanaethau wedi cael effaith ar y gefnogaeth sydd ar gael, ac mae hynny wedi arwain at fwy o lwythi achosion, llai o staff a rhestrau aros hwy. Mae prinder staff a llai o gyllid yn arwain at leihau’r math o gefnogaeth sydd ar gael i’r rheini sy’n gyfrifol am ofalu, a faint o gefnogaeth sydd ar gael.

 

Er ein bod ni fel mudiad yn croesawu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, un o ganlyniadau anfwriadol y Ddeddf i ofalwyr ifanc, yw eu bod yn colli allan ar gyfleoedd i gymdeithasu a ffurfio cyfeillgarwch â gofalwyr ifanc eraill - y rheini y maent yn rhannu profiadau bywyd tebyg â nhw. Roedd hyn bob amser yn elfen arbennig o bwysig a gwerthfawr o wasanaethau cefnogi penodol i ofalwyr ifanc.

 

Mae’r ffaith fod gofalwyr ifanc yn colli allan ar amser hamdden, chwaraeon a diddordebau arferol, yn ogystal â bywyd cymdeithasol cyffredin y tu allan i’r ysgol, yn hysbys iawn.[1]

Er bod rhai pobl ifanc yn gallu manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn eu cymunedau - gan gymryd bod ganddynt amser rhydd i wneud hynny drwy gyfrwng darpariaeth gofal seibiant ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt - mae’n anoddach i eraill.  Mae cyfleoedd i ffurfio cyfeillgarwch â gofalwr ifanc eraill, rhannu profiadau a meithrin hyder yn rhan bwysig, ac weithiau hanfodol, i blant sy’n aml yn profi unigrwydd, arwahanrwydd ac iselder o ganlyniad i’w cyfrifoldebau gofalu.

 

Mewn rhai ardaloedd, mae’r amser o dan gontract sydd wedi’i ddyrannu i gefnogi gofalwyr wedi gostwng o 12 mis i chwe wythnos.  Er mai cyfnodau byrrach o gefnogaeth sydd eu hangen ar nifer o deuluoedd o bosibl, bydd diffyg hyblygrwydd o ran am ba mor hir y gall teulu cael cefnogaeth, yn anochel yn arwain at rai teuluoedd ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.  Mae’r cyfnod amser cyfyngedig hwn hefyd yn arwain at lai o gyfleoedd i ofalwyr ifanc gymryd rhan mewn gwaith datblygu a dylanwadu, neu i deimlo bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau amdanynt yn clywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.

 

Mae ein gwasanaethau wedi dweud bod gofal seibiant wedi cael ei dorri’n sylweddol, a gall hyn arwain at gyfraddau argyfwng uwch. Mae diffyg gofal seibiant i ofalwyr ifanc, yn ogystal â darpariaeth sy’n gostwng i oedolion sy’n ofalwyr yn broblemau penodol y mae staff ein gwasanaethau wedi’u nodi.

 

Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth

Mae cyflwyno Swyddogion Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd sydd â chyfrifoldebau gofalu mewn sawl achos, gan fod hyn yn golygu bod ganddynt bwynt cyswllt a gall wella eu mynediad at wasanaethau. Mae’r cynnig hwn yn arbennig o gadarnhaol pan fydd gwaith amlasiantaeth wedi'i sefydlu’n iawn, er mwyn i gyfathrebu rhwng mudiadau fod yn effeithiol a chefnogaeth gael ei darparu’n gynharach. Ond, unwaith eto mae ansawdd y gefnogaeth yn dibynnu’n rhy aml ar arbenigedd yr unigolyn a dull gweithredu’r awdurdod lleol. Nid oes pwynt cyswllt canolog i ofalwyr mewn rhai ardaloedd. Er bod y rhwymedigaeth statudol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth wedi bod yn gadarnhaol, yn ein profiad ni, mae prinder cyllid yn golygu bod llai o wasanaethau i gyfeirio atynt neu lai o gefnogaeth i’w chynnig. 

 

Gwybodaeth y mae awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn ei chasglu am ofalwyr a’u hanghenion

Er na fyddem ni bob amser yn cael gweld gwybodaeth y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn ei chasglu, gan ein bod ni’n fudiad trydydd sector, mae rheolwyr ein gwasanaethau wedi mynegi pryderon ynghylch sut mae data’n cael eu casglu a’u defnyddio, fel isod:

 

·         Mae cyfyngiadau o ran cyllid wedi arwain at argraff y gall awdurdodau lleol fod yn fwy gwarchodol o’r ddarpariaeth brin sydd ar gael, gan arwain at brosesau asesu a allai fod yn atal teuluoedd rhag gofyn am gefnogaeth

·         Nid yw canlyniadau’n cael eu rhannu’n rhwydd â theuluoedd yn gyffredinol

·         Mae canolbwyntio mwy ar gasglu ystadegau wedi gwneud i rai gredu bod llai o ganolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth

·         Mae gofalwyr ifanc yn cael eu diystyru o hyd, yn arbennig wrth i’r meini prawf ar gyfer dynodi rhywun yn ofalwr ar draws y boblogaeth arwain, yn anochel, at ragor o bobl yn cael eu hadnabod. Er y byddem yn croesawu adnabod rhagor o ofalwyr, rydym yn bryderus pan nad yw’r cyllid yn cyd-fynd â’r galw cynyddol

·         Er bod cytundeb bod gan ddarpariaeth prif ffrwd a chyffredinol rôl i’w chwarae o ran ymyrryd yn gynnar a gwell canlyniadau i ofalwyr yn y pen draw, nid yw’r darparwyr prif ffrwd hyn wedi cyrraedd y cam lle maent yn gallu gweithio fel hyn eto, ac mae hyn yn arwain at bryderon y bydd gofalwyr ifanc yn cael eu methu

·         Mewn rhai ardaloedd, mae wedi’i nodi nad oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc na’u hadnabod

 

Sylwadau ychwanegol

Dyma rai dyfyniadau gan reolwyr ein gwasanaethau am effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar rieni sy’n ofalwyr, gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr:

 

“Dydw i ddim yn credu bod gan awdurdodau lleol ddigon o gyllid i fodloni’r disgwyliadau sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf. Dylid clustnodi’r arian hwn i wneud yn siŵr bod gofalwyr yn cael eu cefnogi’n briodol.”

 

“Mae angen mwy o gefnogaeth ar ofalwyr ifanc.”

 

“Roedd arian gofalwyr ifanc yn arfer cael ei glustnodi, efallai bod gofyn i hyn ddigwydd eto.”

 

“Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn teimlo bod y Ddeddf wedi gwella bywydau/y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i ofalwyr ifanc nac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn ein hawdurdod lleol.”

 

“Rwy’n teimlo’i bod [y Ddeddf] wedi siomi gofalwyr ifanc yn sylweddol.”

 

“Mae’r rheini y mae eu lleisiau’n rhan o’r Ddeddf wedi dweud wedi eu bod yn teimlo wedi’u siomi.”

 

 



[1] https://carers.org/news-item/research-reveals-80-young-carers-miss-out-childhood-experiences